Hanes y Rhwydwaith clywed lleisiau Yn 1987, ymddangosodd Marius Romme, seiciatrydd cymdeithasol yn Masstrict, a Patsy Hage, a oedd yn clywed lleisiau, ar y teledu yn yr Iseldiroedd yn siarad am leisiau ac yn gofyn i bobl a oedd yn clywed lleisiau gysylltu a hwy. Ymaebodd 750 Clwwai 450 leisiau Ni allai 300 ymgodymu a hyn Gallai 150 ymgodymu a hyn Yn dilyn ymchil a waned i'r ymateb hwn, sefydlwyd Sefydliad Resonance, y grwp hunangymorth cyntaf. Cynhaliwyd y gynhadledd clwed lleisiau gyntaf ym Manceinion yn 1988, i roi cipolwg i weithwyr proffesiynol o'r profiad o glywed lleisiau. Mae'r rhwydwaith yn fudiad byd-eang erbyn hyn. Yn y DG, cynhaliwyd y gynhadledd gyntaf yn 1990, ym Manceinion, gan bobl oedd wedi clwyed am yr ymchwil a gafodd ei wneud yn yr Iseldiroedd, ac am waith Sefydiad Resonance. Mynychodd tri ar ddeg y gynhadledd. Erbyn hyn mae dros 90 o grwpiau yn y DG. |
||||
Tri chyfnod clywed lleisiau Dengys ymchwil fodtri chyfnod i glywed lleisiau: 1. Y Cynod Cyntaf Pan fydd lleisiau yn cychwyn yn ddirybudd, bydd y sawl sy'n eu clywed yn aml yn gwadu'r profiad ac yn mynd i'r cragen. Mae hyn yn arwain at deimlad o arwahanrwydd, a hyd yn oed ofn gwallgofrwydd. 2. Y Cyfnod Trefnu Wedi i'r sawl sy'n clywed y lleisiau ddechrau normal-eiddio'r profaid, gall y broses o ddethol a chyfathrebu a'r lleisiau gychwyn. 3. Y Cyfnod Sefydlogi Bydd y sawl sy'n clywed y lleisiau yn datblygu ffordd fwy parhaol o ymdrin a'r lleisau, a bydd hyn yn caniatau iddo gael rheoaeth dros y lleisiau yn hytrach na bod y lleisiau yn ei reoli ef. Gall bod yn rhan o grwp hunangymorth Clwyed Lleisiau gynorthwyo unigolion i symud o'r naill gyfnod i'r llal trwy dderbyn y sefyllfa, cynnig cymorth a strategaethau ymdopi i'w gilydd. |
||||
Os ydych yn chwilio am atebion, peidiwch a holi rhwyun dysgedig; gofynnwch i rywun profiadol. Dihareb tsieneaidd Dengys ymchwil fod y lleisiau yn bodoli. Rhaid inni hefyd dderbyn na allwn newid y lleisiau. Ni ellir eu gwella, yn union fel na ellir gwella llawchwithdod neu ddyslecsia. Nid yw amrywiadau dyn yn agored i gael eu gwella, dim ond i ymgodymu a hwy. Felly, i gynorthwyo pobl i ymgodymu, ni ddylem gynnig therapi nad yw'n gweithio. Dylem adael i bobl ddewis drostynt eu hunain beth sydd o gymorth neu beidio. Fe gymer amser i bobl dderbyn bod clywed lleisiau yn rhywbeth sy'n perthyn iddynt hwy. Yr Athro Marius Romme Mewn arlwg o 375 o fyfywyr seicoleg dywedodd dros draean ohonynt eu bod yn clywed lleisiau oedd a nodweddion rhithiau clywedol. Posey a Losch (1984) |
||||
Ystyriwch bob opsiwn Mae gwaith y Rhydwaith Clywed lleisiau ar y blaen o ran arfer goleuedig. Mae grwpiau hunangymorth yn cynnig dewis arall, y gellir ei ddefnyddio ar y cyd a'r triniaethau sy'n bodoli eisoes: meddyginiaeth, therapi ymddygiadol gwybyddol, seicotherapi ac yn blaen Mae amcanion Rhwydwaith Clywed Lleisiau Cymru yn cynnwys: Darparu amgylchedd diogel a chyfrinachol lle y gall pobl ymchwilio i'w profiadau eu hunain, a datblygu eu strategaethau ymdopi eu hunain. Normaleiddio'r profiad o glywed lleisiau. Adeiladu cymuned therapiwtig lle gall pobl deimlo ei bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u derbyn. |
Cysylltwch a Rhwydwaith Clywed Lleisiau Cymru d/o Gweithredu dros, Iechyd Meddwl Cymru, Brighton Chambers, 124 Main Street, Penfro, Sir Benfro, SA71 4HN. Ffon: 01646 684515 |
|||